Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Mawrth 2017
Amser: 09.00 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3853
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC David Melding AC (yn lle Janet Finch-Saunders AC) Siân Gwenllian AC Bethan Jenkins AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Lisa James, Llywodraeth Cymru Carl Sargeant AC John Rees, Llywodraeth Cymru Katie Wilson, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Christopher Warner (Clerc) Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2. Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitemau 3 a 6.
1.3. Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
· Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trawsnewid a Phartneriaethau Llywodraeth Leol
· Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
· John G Rees, Rheolwr y Bil
· Katie Wilson, Cyfreithiwr
2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i:
· Ddarparu’r ffigurau ar unrhyw gynnydd yn y stoc tai cymdeithasol mewn ardaloedd awdurdodau lleol lle y mae’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael wedi eu hatal dros dro o dan y Mesur Tai (Cymru) 2011;
· Darparu nodyn ar y weithdrefn a’r meini prawf cymhwyster ar gyfer ceisiadau am ataliadau dros dro o dan Fesur Tai (Cymru) 2011;
· Darparu drafft o’r ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid sy’n ofynnol o dan adran 8 o’r Bil;
· I egluro pwrpas a’r effaith a fwriadwyd ar gyfer Adran 2 ac Adran 4 o’r Bil.
4.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru).
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil yr Undebau Llafur (Cymru).
4.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth Ychwanegol gan y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Chwefror 2017
4.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.
4.5.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol: Adroddiad Naratif bob chwe mis ar Wasanaethau Plant.
4.6.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru.
4.7.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru.
4.8.a Nododd y Pwyllgor y nodyn o drafodaethau’r grŵp ffocws mewn cysylltiad â Bil yr Undebau Llafur (Cymru).
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y materion a godwyd yn ystod y sesiwn.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.